Siarter Iaith

Mae’r Siarter Iaith yn gynllun newydd a chyffrous sydd yn gorfod cael ei fabwysiadau gan ysgolion ym Mowys! Mae’r Llywodraeth am gael 1 miliwn o bobl i siarad Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050! Gyda chymorth yr ysgolion ... hyn yn bosibl. Nid siarad Cymraeg yn unig yw siarad Cymraeg yn y dosbarth, mae'n golygu siarad Cymraeg yn y coridorau, ar yr iard a thu hwnt i furiau'r ysgol - mae'n golygu gwneud ymdrech i siarad Cymraeg yn pob cyfle posib! Mae hefyd yn golygu dysgu am ein hanes a'n diwylliant fel y gallwn fod yn ymwybodol o'r holl bobl sydd wedi ymladd dros ein gwlad a'n hiaith ar hyd yr oesoedd - y bobl sydd wedi ymladd i gadw'r iaith yn fyw er budd ein cenhedlaeth a chenedlaethau'r dyfodol . Rydym wedi enwebu pwyllgor fel y gallwn lwyddo yng ngofynion y Siarter ac fel y gallwn ddechrau symud ymlaen gyda gobeithion yr ysgol. Mae'r brwdfrydedd yn ysgubol o fewn yr ysgol, mae'r syniadau'n llifo a gallwn weld llwyddiant ar y gorwel. 

Rap y Siarter
Siarad Cymraeg yn yr Ysgol - Ie
Siarad Cymraeg ar yr iard - Ie
Coridor Siarad Cymraeg yn y - Ie
Siarad Cymraeg dros y lle
Cymraeg cwestiwn arall
Ymlaen Dyffryn Trannon!