Mae’r Cyngor Ysgol yn bwyllgor sydd wedi’u hethol o flwyddyn 2 yn y Cyfnod Sylfaen ac yna, Cyfnod Allweddol 2. Mae gennym swyddogion gwahanol o fewn y Cyngor Ysgol sef cadeirydd, ysgrifennydd, trysorydd a chynrychiolwyr dosbarth. Ein rôl ni yn yr ysgol yw gwrando ar leisiau’r plant ac i feddwl am syniadau newydd i’r ysgol i geisio ei gwella.