Mae’r Urdd yn bwysig iawn ni yma yn Ysgol Dyffryn Trannon! Dyma fudiad sy’n sicr o roi’r cyfle i’n plant feithrin talentau a sgiliau. Ar hyd y blynyddoedd, mae Ysgol Dyffryn Trannon wedi cystadlu a bod yn llwyddiannus iawn mewn amrywiaeth o gystadlaethau chwaraeon megis pêl droed, pêl rwyd, rownderi, nofio i enwi dim ond rhai. Yn ychwanegol at hyn mae’r Eisteddfod, wrth gwrs! Rydym wedi bod yn gystadleuwyr brwd ar hyd y blynyddoedd ac wedi profi cryn dipyn o lwyddiant mewn cystadlaethau llwyfan a chystadlaethau celf a chrefft. Rydym yn cynnal clwb yr Urdd yn ystod tymor y Gwanwyn ac mae hyn yn rhoi’r cyfle i ni weithio gyda’n gilydd tuag at gystadlaethau.












