Clwb Brecwast

Mae'r Clwb Brecwast wedi bod yn rhedeg yn yr ysgol ers ychydig flynyddoedd. Mae'r drysau'n agor i blant ddod mewn i'r clwb am 7:55 bob dydd. Mae'r clwb yn boblogaidd iawn. Mae grawnfwyd, tost a dŵr ar gael i'r plant. Mae amrywiaeth o weithgareddau hefyd ar gael mewn amgylchedd hapus a diogel.