Cwricwlwm
• Darparu cwricwlwm sy'n eang, yn gytbwys, yn berthnasol ac yn briodol i anghenion y plant er mwyn hyrwyddo datblygiad cyffredinol pob plentyn.
• Sicrhau bod pob plentyn yn ennill sgiliau hanfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol TGCh gan ddatblygu'r gallu i ddefnyddio'r rhain yn effeithiol ar draws y cwricwlwm.
Ethos
• Creu hinsawdd yn ein hysgol o ddealltwriaeth, gofal, gwerth a pharch at ein gilydd.
• Cyflawni cyfle cyfartal trwy ddarparu cwricwlwm sy'n rhoi cyfle i bob plentyn wireddu ei botensial llawn, gan feithrin parch at wahanol ddiwylliannau a chrefyddau
• Hyrwyddo sgiliau dwyieithog dysgwyr ac adlewyrchu iaith a diwylliant Cymru.
Ansawdd Addysg
• Hyrwyddo caffael gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth berthnasol, a gwella ansawdd ac effeithiolrwydd dysgu trwy weithgareddau y mae plant yn eu hystyried yn ystyrlon ac yn ysgogol.
• Helpu plant i ddatblygu meddyliau bywiog, ymchwilgar a'r gallu i resymu.
• Helpu i ddatblygu sgiliau canolbwyntio, cymhwyso, hunanddisgyblaeth a chynyddu eu gallu i ddysgu trwy annog
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
• Creu amgylchedd gwaith sy'n ysgogol a chefnogol i'r holl staff, lle mae eu cyfraniadau a'u sgiliau yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi.
• Cynnal a datblygu perthynas waith gadarn rhwng llywodraethwyr, Pennaeth a staff er budd cymuned gyfan yr ysgol.