-
Mrs S Aeron
Croeso i ddosbarth Blwyddyn 3 a 4 Dosbarth. Rydym yn ddosbarth hapus, prysur a siaradus sydd yn llawn o fwrlwm a brwdfrydedd. Rydym wrth ein boddau yn cael hwyl, ond rydym yn gwybod hefyd ei bod yn bwysig canolbwyntio, dyfalbarhau ac anelu am y sêr. Dydyn ni byth yn poeni am gamgymeriadau gan taw dyna sut rydym yn dysgu! Rydym yn mwynhau holl themau y dosbarth ac yn penderfynu gyda’n gilydd beth fydd gwaith y tymor. Rydym yn mwynhau Llythrennedd, Rhifedd, Technoleg Gwybodaeth a Gwyddoniaeth ac yn eu defnyddio ym mhob agwedd o’r Cwricwlwm. Ein thema ar gyfer tymor yr Haf yw ‘Rhyfeddodau.’ Tybed pa sgiliau newydd byddwn yn eu dysgu trwy’r thema yma?