Cylch Trannon

  • Mrs Anna

Ym Mês Bach, cynigir darpariaeth 3 oed drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Mês Bach ar agor bedwar bore'r wythnos. Mae'r sesiynau'n rhedeg o 9 tan 11:30. Yn ystod y cyfnod hwn, rhoddir cyfle i'r plant fanteisio ar amrywiaeth o weithgareddau dysgu gwahanol, o chwarae â chlai, sgiliau cyfrifiadurol a dysgu yn yr awyr agored i ddatblygu eu hannibyniaeth, eu hyder a'u sgiliau cymdeithasol. Mae'n haws trosglwyddo i'r ysgol brif ffrwd gan fod plant yn fwy cyfarwydd â'u hamgylchedd.